Bananas yw’r ffrwythau sy’n gwerthu fwyaf yn y DG, a’r cynnyrch groser mwyaf gwerthfawr i archfarchnadoedd. Mae bananas Masnach Deg ar gael yn y Co-op, Morrisons, Nisa, Somerfield , Lidl a Spar, a rhai siopau bwyd bach eraill. Mae’r rhan fwyaf o fananas Masnach Deg yn dod o’r Caribî a Chanol De America.
Mae Orennau, Lemonau, Satswmas, Clementinau, Orennau Bogeiliog, Orennau Bogeiliog Hwyr a Valencias ar gael yn aml yn y Co-op ac mae orennau a lemonau hefyd ar gael yn Morrisons ..
Mae ffrwythau citraidd Masnach Deg yn dod o Dde Affrica, Moroco a’r Aifft.

Mae afalau Masnach Deg o Dde Affrica ac ar gael o’r Co-op, a Morrisons pan fyddant yn eu tymor.
Mae grawnwin gwyrdd a choch o Dde Affrica ar gael pan fyddant yn eu tymor o’r Co-op a Morrisons. Mae’r ffermydd sy’n cynhyrchu grawnwin Masnach Deg yn rhan o fenter Thandi. Mae hyn yn cefnogi prosiectau rhoi grym i bobl yn Ne Affrica, lle y gall gweithwyr ddod yn gydberchnogion ffermydd ffrwythau.

Mangos yw’r ffrwyth trofannol mwyaf toreithiog yn y byd ond nid yw llawer o siopwyr Prydeinig yn gyfarwydd â’r ffrwyth oherwydd nad ydynt erioed wedi blasu un.
Gosodwch y ffasiwn drwy brynu mangos Masnach Deg o’r Co-op, neu Morrisons, pan fyddant yn eu tymor.
Mae gellyg ac eirin Masnach Deg o Dde Affrica ar gael o’r Co-op pan fyddant yn eu tymor.
Mae afalau pîn Masnach Deg o Gosta Rica a Ghana ar gael o’r Co-op a Morrisons.

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion