Rydych yma : Hafan > Amserlen Weithredol > Mai 2007

Mai 2007


Mai 3ydd 2007
Annwyl gynghorau Ysgolion
 

Rwy’n gobeithio bod Cynhadledd Ysgolion Masnach Deg wedi’ch helpu i gael llawer o syniadau am sut i wneud eich ysgol chi yn Ysgol Masnach Deg. Bydd Prosiect Ysgolion Masnach Deg yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau a dathlu’ch llwyddiant gydag ysgolion eraill trwy wefan sydd wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn.

Mae pob ysgol yn mynd i gael ei thudalen ei hun fel y gallwch adael i ysgolion eraill wybod am bopeth rydych yn ei wneud er mwyn i’ch ysgol chi ddod yn Ysgol Masnach Deg. 

 

 Sut i Ddechrau

 Ceisiwch wneud cymaint o’r pethau hyn ag y gallwch   cyn hanner tymor!
 

Enw i'r Prosiect a Chystadleuaeth Logo 

Rydyn ni angen enw a logo bachog i’r gystadleuaeth, felly rydyn ni’n trefnu cystadleuaeth i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan i feddwl am enw dwyieithog a chynllun logo ar gyfer y prosiect.

I’ch helpu i gael syniadau gallech gael cip ar logo Masnach Deg. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Mai 19. Yn anffodus, dim ond un cynnig fyddwn ni’n ei dderbyn o bob ysgol, felly mae gennych y gwaith anodd o ddewis yr un i’w anfon i mewn.

Bydd yr un sy’n ennill yn derbyn £50 ar gyfer adnoddau Masnach Deg, a bydd yr enw a’r logo’n cael eu defnyddio ar y wefan ac ar holl ddeunyddiau’r prosiect.  

 

Gadael i Bawb Wybod

Mae angen i chi feddwl am sut rydych yn mynd i greu brwdfrydedd ymhlith pawb yn yr ysgol er mwyn cael Ysgol Masnach Deg.

  • Gallech fynd i mewn i bob dosbarth i egluro beth yw pwrpas Ysgolion Masnach Deg
  • Gallech siarad am y gynhadledd ac egluro am Ysgolion Masnach Deg yn y Gwasanaeth
  • Gallech gynnal gwasanaeth fel y gwnaeth Ysgol Rhydypennau yn y gynhadledd, neu baratoi gwasanaeth arall i’ch ysgol chi.
Bydd eich athro/athrawes Masnach Deg yn eich helpu i benderfynu beth rydych am ei gyflwyno i’r ysgol.
 

Sefydlu Pwyllgor Masnach Deg yr Ysgol

  • Mae pethau’n dechrau’n dda gan fod cyngor yr ysgol a’r athro/athrawes Masnach Deg ar y pwyllgor.
  • Beth am holi i weld a fyddai rhiant, cogyddes, un o’r llywodraethwyr neu’r athrawon ac disgyblion eraill yn hoffi bod yn aelod o’r pwyllgor? Mae’n bwysig i gynnwys gwahanol bobl sydd oddi mewn i gymdeithas yr ysgol os medrwch.

 Lle Arddangos

  • Fel man cychwyn, gallech arddangos posteri a thaflenni o’r pethau a gawsoch yn y gynhadledd!
 

Meddyliwch Rwan am ddigwyddias Masnach Deg yn Ystod Tymor yr Haf

  • Os yw eich ysgol yn cynnal Ffair Haf, gallech gynnal stondin ac arddangosfa i esbonio beth yw ystyr bod yn Ysgol Masnach Deg
  • Oes yna rieni fyddai’n hoffi helpu?
  • Gallech wneud te a choffi Masnach Deg.
  • I’ch helpu i feddwl am syniadau eraill edrychwch ar y rhestr Syniadau ar gyfer Gweithgareddau Masnach Deg, neu meddyliwch am rai eich hunain!
 

Lanso'r Wefan

Bydd y wefan yn cael ei lansio ar y diwrnod cyntaf ar ôl hanner tymor, sef Mehefin 4ydd. Bydd llwyth o wybodaeth a syniadau defnyddiol ar y wefan i’ch helpu i ddod yn Ysgol Masnach Deg.

A bydd gan eich ysgol chi ei thudalen ei hunan er mwyn i chi ddangos beth rydych wedi bod yn ei wneud, a bwrdd bwletin i drafod y prosiect gyda phlant o ysgolion lleol eraill.

 

Pledidlesio dros enw a Logo'r Prosiect

  • Bydd angen i’ch ysgol bleidleisio dros eich 3 hoff ddewis ac yna anfon e-bost at af yn diane@isenberg.freeserve.co.uk.
  • Chewch chi ddim pleidleisio dros eich ysgol chi eich hunan.
  • Cofiwch anfon eich pleidleisiau erbyn Mehefin 8fed, fel y gallwn gyhoeddi enw’r enillydd ar Fehefin 11eg.
 

Peidiwch ag anghofio cadw cofnodion o’ch cyfarfodydd, a thynnu llawer o luniau o bob un o’r gweithgareddau Masnach Deg fydd yn digwydd yn eich ysgol chi.

Wrth gyflwyno cais i ddod yn Ysgol Masnach Deg bydd yn rhaid i chi ddangos beth rydych wedi’i wneud.

Yn bwysicach na dim, wrth ddod yn Ysgol Masnach Deg, cofiwch eich bod yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a theuluoedd mewn llawer o wahanol rannau o’r byd – rhai rydyn ni’n dibynnu arnyn’ nhw i dyfu llawer o’n bwyd a gwneud ein dillad.

Pob Lwc a Llawer o Hwyl 
 
Diane Isenberg
(Cydlynydd Prosiect Ysgolion Masnach Deg)