Mae bananas yn debyg o gynnau diddordeb plant, ond maent hefyd yn mynd i mewn i graidd rhai cwestiynau anodd ynglyn â masnachu. Mae’r pecyn ffoto yn dilyn taith banana o’r man y tyfwyd ynddo (St Vincent yn yr achos hwn) trwy gael ei anfon i’r DU, i’r cyfanwerthwr ac yn derfynol i’r siop neu’r farchnad. Mae gweithgareddau i’r plant yn dilyn rhai o’r cwestiynau a’r anghyfartaleddau sydd ynghlwm yn y broses hon.
Pris £14.00 Cyhoeddwr - Oxfam
Mae’r CD rhad ac am ddim hwn oddi wrth Farming and Countryside Education yn cynnwys 4 cyflwyniad PowerPoint sy’n addas i addysgu daearyddiaeth yn yr ysgol gynradd. Mae’r cyflwyniadau yn ystyried bywyd ffermwr bananas in Ynysoedd y Gwynt yn y Caribi. Yn benodol, mae’r cyflwyniadau yn archwilio’r hinsawdd, yr amgylchedd ac agweddau cymdeithasol megis rôl Masnach Deg. Ceir nodiadau sy’n mynd gyda’r cyflwyniadau, gyda chwestiynau gwahanol ar gyfer disgyblion o alluoedd gwahanol. (DI-DAL)
Mae’r gweithgaredd-chwarae-rhan hwn, a gynhyrchwyd gan Reading International Solidarity Centre, yn procio disgyblion i feddwl am fywyd fel cynhyrchwr bananas in Ynysyoedd y Gwynt, yn y Caribi. Mae hi’n gêm gogio lle mae disgyblion yn ‘tyfu’ bananas (gan eu llunio), eu masnachu nhw, a chyfrifo eu canlyniadau ar fantolen.. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys amryw o luniau o fywyd cynhyrchwyr bananas ynghyd â gwybodaeth gefndirol.
Y mae’r llyfr dysgu ar draws y cwricwlwm gan Reading International Solidarity Centre yn canolbwyntio ar Fasnach Deg. Mae’r llyfr yn cynnwys gweithgareddau sy’n addas i ddysgu ym mhen uchaf yr ysgol gynradd, ac yn archwilio sut y’n cysylltir ni â gweddill y byd trwy ein siopa. Mae’r llyfr yn cyflwyno disgyblion i gysyniad Masnach Deg, ac i’r syniad y dylai ffermwyr gael pris teg am eu cnydau.
Gêm sy’n edrych i mewn i’r ffordd y masnechir bananas
Ffordd dda i gael Grŵp Fasnach Deg newydd i siarad â grŵp arall!
Cyflwyniad i Banana Link a’i waith
16 o dudalennau o adnoddau dysgu gan Banana Link

© 2007 Ysgolion Masnach Deg Gogledd Ceredigion